Safonau Ansawdd
Ymfalchïwn yn ansawdd eithriadol y cwmni a’n cynnyrch. Meddwn ar y gofynion cenedlaethol ar gyfer safonau i gyd er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau safonol yn cael eu gweithredu i gynnal ansawdd. Cynhelir y ‘Safonau Ansawdd’ hyn gan ein staff yn ystod yr holl brosesau er mwyn rhoi sicrwydd neilltuol i’r cwsmer
Achrediad CLAS -Cynllun labordy annibynnol ar gyfer y diwydiant bwyd yw’r ‘Campden Laboratories Accreditation Shceme’. Trwy ennyn yr achrediad pwysig hwn gallwn ddadansoddi’r llaeth bylc a ddaw i’r safle’r un diwrnod. Mae’r cynllun yn cyfeirio at ofynion Safon Ansawdd Labordai ISO 17025 sydd yn rhoi hygrededd i ymarferion y labordy trwy archwiliadau, gwirio allanol a gwelliannau parhaus.
Soil Association -corff ardystio organig mwyaf Prydain.
Tractor Coch -Balch o fod yn Brydeinig ac yn gweithio i warantu safonau bwyd ar y fferm.
ISO 9001:2000 - Systemau Rheoli Ansawdd. Y safon gydnabyddedig ryngwladol hon yw un o safonau mwyaf poblogaidd o’r holl ISO ac mae’n darparu fframwaith diogel ar gyfer gwella perfformiad a boddhad cwsmer yn barhaus.
ISO 14001 – Systemau Rheoli’r Amgylchedd. Mae’n edrych ar reolaeth amgylcheddol y cwmni ac yn nodi beth sydd angen i ni ei wneud i leihau effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd. Rydym yn sicrhau ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb yn yr Hufenfa i reoli, gwella a lleihau effaith amgylcheddol yn barhaus.
Buddsoddwyr Mewn Pobl – mae’n darparu fframweithiau profedig a syml i wella rhediad y busnes drwy ei phobl.
Mae Rhestr ‘A’ Marks & Spencer ar gyfer deunydd crai critigol yn cymeradwyo Hufenfa De Arfon sydd yn golygu bod modd defnyddio caws bylc yr Hufenfa ym mwyd brand Marks & Spencer fel brechdanau a bwydydd parod.
