Hufenfa De Arfon
Cwmni Cydweithredol o ffermwyr llaeth yw Hufenfa De Arfon, felly fel perchnogion mae ein haelodau, y ffermwyr sydd yn cyflenwi’r llaeth i ni, gyda chyfranddaliadau yn y cwmni.
Yn gyson cydnabyddir bod ein llaeth yn uwch na’r safon ganrannol genedlaethol; mae ganddo fwy o fraster a phrotein a llai o gyfrif celloedd somatig. Dim ond profi hyn ymhellach mae ein gwobrau di-ri. Ar ben hynny, mae maint y buchesi ar ganran yn llai na’r canran cenedlaethol ac mae gennym fuchesi ymroddedig sydd yn cynhyrchu llaeth organig a Jersey.
Mae ‘maes llaeth’ ein haelodau yn mynd draw tu hwnt i ardal leol Pen LlŶn ac yn cynnwys Gogledd a Chanolbarth Cymru. Er mwyn cyfarfod y ffermwyr ‘wyneb i wyneb’ cliciwch Lle Mae Nhw er mwyn dod o hyd i’w mangre a gwybodaeth am eu buchesi.
Er mwyn cynnal safon, mae ein aelodau yn cael eu harchwilio yn rheolaidd yn unol â gofynion Cynllun Tractor Coch ac ein safon ansawdd mewnol ni.
