SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

DATGANIAD I’R WASG - Hufenfa De Arfon yn lansio Caerffili ‘Gwirioneddol’ Gymreig.

Mae Hufenfa De Arfon, Cwmni ffermwyr llaeth cydweithredol blaenllaw Cymru wedi lansio'r caws mwyaf traddodiadol yng Nghymru, Caerffili. Mae’r caws Caerffili Cymreig yn diferu o darddiad gwirioneddol; caws Cymreig traddodiadol, wedi ei wneud yng Nghymru gyda llaeth Cymreig; yn wir ni allai fod yn fwy Cymreig pe baent yn dymuno.  Dyma rywbeth na all rhai o’r prif gynhyrchwyr Caerffili eraill ei hawlio.  Mae eu caws gwyn newydd gydag ansawdd hufennog ysgafn ac wedi ei frandio o dan enw’r teulu Hen Sir.  Caiff ei bacio yn barod i silff y siop mewn pecyn 200g am bris o £1.50.  Yn ogystal, mae ar gael mewn blocyn mwy 2.5kg ar gyfer y cownteri deli.  Mae’r caws i’r dim i’r siopau bwyd sy’n mynnu bod tarddiad o’r pwysigrwydd blaenaf. Yn draddodiadol, mwyngloddwyr oedd yn bwyta Caerffili oherwydd ei fod yn ffynhonnell dda o brotein ac yn ailgyflenwi halen.  Heddiw mae’n cynnig dewis arall gwych yn lle Feta mewn salad Groegaidd. Mae Hufenfa De Arfon wedi derbyn nifer o gymeradwyaethau annibynnol am eu cynnyrch caws a hufen.  Llynedd yn unig fe wnaethant ennill 20 o wobrau, ymhlith eraill, Gwobrau Caws y Byd, Sioe Frenhinol Cymru a Sioe Gaws Rhyngwladol Nantwich. 
Nôl i newyddion

Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk