Waeth i chi ei dderbyn ddim, weithiau rydych eisiau ryw rodd Nadolig bychan i fynd gyda chi i dŷ rhywun. Dim byd disgwyliadwy fel gwin neu siocled, dim rhy fawr a dim rhy ddrud, dim ond rhywbeth bach i fynegi eich diolchgarwch a gwerthfawrogiad. Rydym i gyd yn gwybod bod amser fel aur, yn enwedig adeg y Nadolig, felly be am brynu rhywbeth wedi ei bacio’n barod?
Y Nadolig yma mae Hufenfa De Arfon yn lansio amrywiaeth o gosynnau caws newydd. Mae pob cosyn wedi ei bacio’n grefftus i edrych fel anrheg Nadolig; wedi ei dorri yn sgwâr a’i drochi gyda llaw mewn cwyr du, ac i orffen, rhuban del cyferbyniol a thag. Felly, pwy sydd angen papur lapio? Bydd Cosyn Nadolig Cheddar Clasurol Hufenfa De Arfon, wedi ei orffen gyda rhuban gwyrdd mewn stoc yn rhan fwyaf o storfeydd Waitrose, a hefyd yn Selfridges. Mae’n blasu’n arbennig, gyda gafaeliad aeddfed a bydd y teulu i gyd yn ei gladdu ac mae’n sicr o greu argraff ar yr arbenigwr caws. Fel y buasech yn disgwyl ‘parsel’ gyda rhuban coch yw’r Red Leicester a Tsili er mwyn dangos bod tsilis poeth wedi cael eu hychwanegu, ac mae’n cymeradwyo’r caws Red Leicester ysgafn i’r dim. Bydd mewn stoc yn storfeydd mwyaf Sainsbury drwy Brydain.
Yn olaf, caws o wir darddiad, Caerffili Cymreig a fydd ar werth yn Selfridges. Chwiliwch am y rhuban aur.
Gwneir caws Hufenfa De Arfon i gyd yn eu hufenfa yng Ngogledd Orllewin Cymru yn defnyddio llaeth Cymreig o’r safon gorau o ffermydd eu haelodau. Mae’n cynhyrchu caws llyfn gyda blas cryf, llawn, ffres a chytbwys. Mae’r cawsiau i gyd yn addas ar gyfer llysieuwyr.
Bydd pris pob caws 450g yn £5.50 i fyny a bydd hefyd ar gael mewn detholiad o archfarchnadoedd Cymru a siopau annibynnol. Yn ogystal, gellir ei archebu drwy’r post yn uniongyrchol o’r Hufenfa www.sccwales.co.uk <http://www.sccwales.co.uk>.
Felly, os ydych yn chwilio am anrheg Nadolig bychan i garwr caws, neu yn brin o amser (neu’n casáu lapio anrhegion), ai dyma yw eich ateb?
Nôl i newyddion