SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

Bagiau Llaeth

Y ni yw un o’r cwmnïau cyntaf ym Mhrydain i bacio llaeth mewn bagiau.  Mae’n gam rhesymegol tuag at helpu i leihau gwastraff paciau plastig.  Mae bag llaeth yn defnyddio 85% yn llai o blastig na photel blastig gonfensiynol 2 beint.  Yn ychwanegol mae modd ailgylchu ein bag llaeth!


Er bod y llaeth yn cael ei bacio mewn bag llaeth 2 beint rydym wedi sicrhau bod y cynnyrch yn hawdd i’w storio a’i ddefnyddio.  Gellir ei orwedd a’i stocio mewn oergelloedd a phan yn barod i’w ddefnyddio, yn syml rhoddir y bag mewn jwg blastig a thorri congl y bag er mwyn tywallt y llaeth fel mae angen.


Mae’r bagiau llaeth yn cael eu pacio yn enw brand Llaeth Hufenfa De Arfon, ond gellir ei gynnig i unrhyw un sy’n mynnu ansawdd llaeth o safon ragorol, ond sydd hefyd eisiau ymateb i’w polisïau amgylcheddol a gwastraff pacedi.  Ar hyn o bryd fe’u defnyddir mewn rhwydwaith cenedlaethol o gaffis enwog ac maent yn cael eu pacio o dan eu enw brand hwy.

Yn ogystal, rydym yn pacio llaeth i fagiau sengl 1/3 peint (189ml).  Eto, mae’r arbedion gwastraff pacio yn arwyddocaol a dyna pam mae’r cyngor lleol yn cefnogi’r fenter yn yr ysgolion, canolfannau dydd a chartrefi preswyl i’r henoed.


Ymwelwch â’r Rhestr Cynnyrch am restr lawn o'r dewis llaeth i gyd.


image

Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk