Ymuno â Ni
Os ydych yn ffermwr llaeth gyda diddordeb mewn ymuno â chwmni ffermwyr llaeth Cydweithredol allweddol yng Nghymru, yna plîs cysylltwch â ni neu gwblhau’r ffurflen ymholiad sydd ynghlwm. Buasem yn falch iawn o glywed gennych. Rydym yn llwyr ymrwymedig i’n haelodau ac yn ymdrechu i gynnig buddion cynaliadwy er mwyn galluogi’r aelodau fod yn broffidiol a’u galluogi i fuddsoddi yn eu busnes eu hunain.
Gall aelodaeth gyda Hufenfa De Arfon gynnig diogelwch, sefydlogrwydd a chefnogaeth i ffermwyr llaeth.
