SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

Dewis Llaeth


Llaeth

Mae  llaeth llawn, hanner sgim a sgim yn cael ei bacio i boteli plastig maint peint, 2 beint a 4 peint.  Mae Hufenfa De Arfon yn cyflenwi’r farchnad leol, trwy ddanfoniadau i garreg y drws a storfeydd bwyd lleol, gyda photeli plastig gyda labeli dwyieithog lliwgar a gloyw yn enw brand Hufenfa De Arfon Cyf.  Mae llaeth yn cael ei bacio i nifer o fanwerthwyr hefyd sy’n cael eu cyflenwi ar draws Cymru yn enw eu brand hwy.


Llaeth Organig

Yn ogystal, rydym yn pacio llaeth organig yn ein llaethdy ac mae’n cael ei gyflenwi’n lleol yn enw brand Hufenfa De Arfon neu yn enw brand y manwerthwyr ar gyfer y farchnad Gymreig.


Hufen a Llaeth Enwyn

Mae hufen Cymreig yn cael ei bacio yn y llaethdy ac fe’i cyflenwir i’r farchnad leol mewn cartonnau gloyw dwyieithog 8owns(227ml) a 5owns (142ml).  Gwneir llaeth enwyn yn y llaethdy gyda llaeth sgim sy’n cael ei feithrin dros nos i dewychu’r llaeth a’i wneud yn fwy asidaidd tan bod blas tebyg i iogwrt arno.  Mae llaeth enwyn yn gynhwysyn traddodiadol a ddefnyddir mewn cacennau cri.  Mae llaeth enwyn Hufenfa De Arfon yn cael ei roi mewn potiau dwyieithog trawiadol oren 8owns (227ml) ac fe’i gwerthir yn rhanbarthol.


Menyn

Gwneir menyn ein hunain trwy gorddi hufen tan mae'n troi'n fenyn hufen melys. Yna gallwn ychwanegu mesurau gwahanol o halen, rydym hyd yn oed yn gwneud ryseitiau ar gyfer rhai o'n cwsmeriaid. Mae ein hufen maidd, a gynhyrchir wrth wneud caws, yn cael ei gorddi i fenyn maidd hallt a'i werthu mewn bylc. Ar gyfer cwsmeriaid manwerthu gallwn bacio menyn i sawl maint hwylus, yn ddibynnol ar y galw. Mae dognau sengl arlwyo 7g, pecyn manwerthu 250g a bocsys bylc 25kg i'r proseswyr bwyd.

Ymwelwch â’r Rhestr Cynnyrch PDF am restr lawn o’r dewis llaeth i gyd.

Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk