SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

Llaethdy


Rydym yn arbenigwyr ar botelu llaeth ac wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd.  Heddiw, rydym yn prosesu dros 12 miliwn litr o laeth y flwyddyn; cyfwerth a dros 600 o danceri!  Mae ein llaethdy amryddawn yn cynhyrchu dewis eang o gynhyrchion ar gyfer dosbarthiadau manwerthu a bylc.  Yn ogystal y ni yw un o’r cwmnïau cyntaf ym Mhrydain i bacio llaeth mewn bagiau, sydd wedi dylanwadu’n ffafriol ar ostwng gwastraff.

Mae safon y cynnyrch gorffenedig yn ddibynnol iawn ar safon y cynhwysyn crai.  Yn gyson, cydnabyddir bod ein llaeth yn uwch na’r safon ganrannol genedlaethol, sydd wedi ei brofi dro ar ôl tro trwy gyda’n gwobrau di-ri.


Mae safon llaeth yn anhepgor, ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau cysondeb ar gyfer ein cwsmeriaid, yn arbennig ein cytundeb mawr gyda rhwydwaith caffi cenedlaethol; wedi'r cyfan, mae'n rhaid iddynt fod yn sicr bod ewyn y capuccino yr un fath drwy gydol y flwyddyn! Mae ein haelodau o gymorth i ni gyda hyn ac yn lloea trwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i leihau brig tymhorol cynhyrchiant yn y Gwanwyn.


Mae Hufenfa De Arfon yn dosbarthu dewis eang o gynnyrch llaeth ei hun, a chynnyrch eraill, yn yr ardal leol trwy wasanaeth ein hetholfreintwyr.  Maent yn dosbarthu i garreg drws dros 4000 cartref yng Ngogledd Gorllewin Cymru, ac yn gofalu bod ein cwsmeriaid lleol yn derbyn cynnyrch llaeth ffres, a gynhyrchir yn lleol, yn ddyddiol.


Ymwelwch â’r Rhestr Cynnyrch PDF er mwyn gweld rhestr lawn o’r dewis llaeth.

Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk