Hanes y Cwmni
Roedd gan John Owen Roberts weledigaeth. Ei weledigaeth oedd gweld ffermwyr llaeth yn cydweithio er mwyn eu galluogi i dderbyn pris gwell am eu llaeth. Daeth y weledigaeth honno yn 1938 ac arweiniodd at lansio Hufenfa De Arfon. Heddiw, 70 mlynedd yn ddiweddarach, parheir yn Gwmni Ffermwyr Llaeth Cydweithredol allweddol yng Nghymru, ac erbyn hyn prosesir 112 miliwn litr o laeth yn flynyddol ar gyfer ein cynnyrch llaeth a chaws cydnabyddedig. Ni chesglir llaeth mewn caniau fel gwnaed yn ôl yn 1938; y dyddiau hyn fe'i cesglir gan ein fflyd o danceri sydd yn ymweld â ffermydd saith niwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.
Roedd yr aelodaeth o 63 o gynhyrchwyr yn 1938 yn eithaf ansicr. Ar y pryd, roedd ffermwyr yn amharod i ymrwymo i gwmni cydweithredol arall, oherwydd bod rhai eraill yn yr ardal wedi bod yn aflwyddiannus. Erbyn heddiw mae'r aelodaeth wedi chwyddo i bron i 170 o aelodau, wedi eu lleoli o Ogledd Cymru i Ganolbarth Cymru; ac erys yr hufenfa ar ei safle gwreiddiol ger Chwilog a harddwch Llŷn ac Eifionydd.
Mae gan Hufenfa De Arfon draddodiad hirfaith o wneud caws. Dechreuodd y safle gynhyrchu caws yn 1959 a heddiw mae'n cynhyrchu 10,500 tunnell o gaws y flwyddyn, yn defnyddio hyd at 100 miliwn litr o laeth. Yn wahanol i'r hufenfeydd mwy, a mwy modern, defnyddir y dulliau cynhyrchu traddodiadol o hyd; mae'r daith sut mae'n cael ei wneud' yn egluro mwy..
