SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

Dewis Caws


Hen Sir

Hwn yw'r cheddar o'r safon gorau un. Mae pob un caws yn cael ei raddio o gwmpas chwe wythnos ar ôl ei gynhyrchu. Dim ond y gorau un o'r holl gawsiau a gynhyrchir sydd yn cael ei neilltuo i aeddfedu ar gyfer ein caws clasurol traddodiadol, arbennig iawn, Hen Sir. Gall y broses aeddfedu gymryd hyd at 18 mis - ond heb os, mae'n werth aros amdano!


Mae'r cynnyrch gorffenedig yn sicr o greu argraff ar unrhyw arbenigwr caws. Mae gan y caws wead llyfn gyda blas cryf, glân, cytbwys a chadarn; i'r dim i'w fwyta ar ben ei hun, neu mae'n gynhwysyn gwych ar gyfer ryseitiau arbennig. Ar gael mewn rhagbecyn 200g, a blociau cwyredig 2.5kg a 5kg a chosyn cwyredig 200g.


Mae Hen Sir ar gael hefyd gyda chennin sydd yn atgyfnerthu ein gwreiddiau Cymreig ymhellach. Mae ar gael mewn nifer o archfarchnadoedd mawr ac ar ein siop ar-lein.


Cheddar Dragon

Mae ein dreigiau gwyrdd a choch yn darlunio Cheddar Cymreig o safon. Cheddar mwyn yw'r pecyn draig werdd, ac fel y tybiwch, aeddfed yw'r coch. Mae'r dewis yma ar gael mewn rhagbecyn 220g a blociau deli 2.5kg a 5kg. Cynnyrch delfrydol ar gyfer allforio; Cymreictod mewn pecyn! Ar gael mewn nifer o archfarchnadoedd mawr ac ar ein siop ar-lein.


Caws Llŷn a Chawsiau Brand HDA

Yn ôl ei deitl Caws Llŷn yw 'caws o Ben Llŷn'. Dyma cheddar gwyn aeddfed o safon uchel a gynhyrchir yn lleol. Mae ein dewis caws brand ni yn cynnwys Cheshire, Cheddar mwyn ac aeddfed, Double Gloucester a Red Leicester. Mae'r rhain i gyd ar gael mewn rhagbecynnau neu flociau deli.


Mae Caws Llŷn ar gael yn bennaf mewn storfeydd lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru, tra mae ein cawsiau brand ni ar gael mewn storfeydd cyfleus, delis a chwmnïau gwasanaethau bwyd. Fel arall, ymwelwch â'r siop ar-lein.


Monterey Jack

Gwneir y caws hwn gyda rysáit Americanaidd traddodiadol yn defnyddio triniaethau cychwynnol gwahanol a phroses gwahanol o wneud Cheddar. Mae'r caws gwyn mwyn hwn yn adnabyddus am ei 'ddawn toddi' ac mae'n berffaith ar gyfer coginio, neu i'w ddefnyddio mewn barbeciws, ar pizzas neu ryseitiau Mecsicanaidd. Mae ei flas tyner gydag ansawdd ysgafn yn apelio i blant ac mae wedi ennill sawl gwobr sy'n profi hynny. Mae'r Monterey Jack ar ffurf olwynion neu flociau hirsgwar yn cael eu pacio â llaw mewn cwyr coch trawiadol. Mae'r cynnyrch hwn yn boblogaidd iawn gyda gwneuthurwyr bwyd hefyd oherwydd ei amlbwrpasedd wrth goginio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen caws bylc.


Caws Pob Taenadwy

Dyma gynnyrch gwirioneddol Gymreig! Mae ein Caws Pob (Welsh Rarebit) Taenadwy yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r danteithfwyd Cymreig traddodiadol. Er mwyn sicrhau bod gan y caws taenadwy flas o'r iawn ryw rydym wedi ychwanegu cwrw Cymreig a mwstard Cymreig. Nid oes rhaid neilltuo'r cynnyrch hwn i dost yn unig, gellir ei daenu a'i bobi ar ben stecen, cyw iâr a hyd yn oed pysgodyn wedi'i gochi, neu ei ychwanegu at datws i wneud stwnsh hufennog a chawslyd. Mae rhai yn argymell ei gynhesu a'i ddefnyddio fel fondue caws, neu ei grasu ar ben wystrys neu gerrig gleision wedi'u cochi i greu crwst o gaws blasus.

Mae'r caws taenadwy yn cael ei bacio mewn tybiau plastig crwn 250g mewn maneg cardbord.
Ar gael mewn nifer o archfarchnadoedd mawr ac ar ein siop ar-lein.


Caerffili

Ni yw un o'r ychydig gwmnïau Cymreig sydd yn gwneud y caws adnabyddus Cymreig hwn! Yn draddodiadol glowyr oedd yn bwyta Caerffili gan ei fod yn ffynhonnell protein da i ail-gyflenwi halen; heddiw fe'i defnyddir fel eilydd da i Feta mewn salad Groegaidd. Mae ein Caerffili yn gaws gwyn ffres gydag ansawdd tyner a hufennog.
Ar gael mewn nifer o archfarchnadoedd mawr ac ar ein siop ar-lein.
Ymwelwch â'r rhestr cynnyrch PDF i weld y rhestr lawn o'r dewis caws i gyd.


Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk