SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

Sut mae'n cael ei wneud


How it's made

A ydych erioed wedi meddwl sut yr ydych yn cychwyn gyda llaeth ac yn gorffen gyda chaws?  Gobeithio y bydd y canllaw cam wrth gam yma o help!


Wel, yn gyntaf peth, mae’n amhosib gwneud caws o safon dda gyda llaeth gwael, felly mae’n hanfodol bod safon y llaeth yn gynaliadwy.  Mae ein aelodau, fodd bynnag, yn cael eu cydnabod yn gyson am gynhyrchu llaeth o safon uwch na’r canran safon genedlaethol.


Cam 1

Cesglir llaeth gan ein aelodau saith niwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.  Gwneir profion safon ar y fferm.  Unwaith y daw i’r llaethdy mae’r llaeth yn cael ei bwmpio i’r seilo a’i basteureiddio.  Mae pasteureiddio yn lladd unrhyw facteria niweidiol heb effeithio ar gyfansoddiad maeth y llaeth.  Ar ôl pasteureiddio,  cludir y llaeth i’r cafnau gwneud caws ar gyfer y cam nesaf


Cam 2

Yna ychwanegir triniaethau cychwynnol (‘starter cultures’).  ‘Starter’ yw cymysg arbennig o facteria sy’n digwydd yn naturiol mewn llaeth;  maent yn adeiladu’r asidedd ac yn suro’r llaeth.


Cam 3

Nawr, ychwanegir renet llysieuol, ac os ydym yn gwneud caws lliw, ychwanegir Annatto hefyd.  Unwaith mae’r renet wedi ei ychwanegu mae’n ceulo’r llaeth ac yn gwneud iddo wahanu i ‘geuled’ a ‘maidd’,  Torrir y ceuled gyda chyllyll miniog a’i basio ymlaen i’r peiriant Cheddareiddio, lle y gwauir y ceuled gyda’i gilydd.  Yna caiff ei falu i sglodion bychan a’i gludo i’r byrddau agored.


Cam 4

Tra bod y ceuled yn cael ei gymysgu a’i droi ar y byrddau caws, mae mwy a mwy o faidd yn cael ei ddiferu i ffwrdd.


Cam 5

Mae’r ceulion yn cael eu halltu â llaw.  Yna cywasgir y ‘sglodion’ ceuled mewn mowldiau crwn neu ei roi mewn ffurfwyr blociau i wneud blociau caws hirsgwar 20kg.


Cam 6

Yna caiff ei selio dan wactod a’i bacio i focsys cardbord a’u rhoi o’r neilltu mewn storfa oer a thywyll er mwyn aeddfedu.  Gall y broses aeddfedu gymryd hyd at 2 flynedd!  Mae ein Graddwyr Caws profiadol yn monitro blas y caws yn barhaus.  Fel mae caws yn heneiddio, daw ei flas yn llawnach a chryfach.


Rhag ofn eich bod yn tybio beth sydd yn digwydd i’r maidd, caiff ei ddwysáu trwy beiriant gwrthdroi osmosis ac fe’i gwerthir i gwmni sy’n ei brosesu i borthiant anifeiliaid - sicrheir nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu!

Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk