SOUTH CAERNARFON CREAMERIES

Change The Language

Cawsiau


Mae gennym draddodiad hirfaith o wneud caws ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers 1959.  Rydym nawr yn cynhyrchu oddeutu 10,500 tunnell o gaws y flwyddyn ac yn defnyddio dros 100 miliwn litr o laeth!


Parheir i brosesu yn draddodiadol, gan halltu caws â llaw ar fyrddau agored. Nid yn unig mae hyn yn cynhyrchu cynnyrch eithriadol o dda, ond mae'n ein galluogi i fod llawer mwy hyblyg na rhai o'r hufenfeydd mwy modern o gylch y byd. Cymerwch olwg ar y daith sut mae’n cael ei wneud.


Mae gennym ddewis Caws eang.  Ceir pob math o Cheddar o’r mwyn i’r clasurol, Double Gloucester, Red Leicester a chaws tiriogaethol mwyaf adnabyddus Cymru, Caerffili.  Yn ogystal, mae Monterey Jack, Colby, caws taenadwy, a chawsiau ceulaidd arbenigol sydd yn cael eu hallforio.  Rhestrir ein dewis caws i gyd yma.


Mae ein caws yn cael ei bacio mewn pecynnau manwerthu neu mewn bylc. Mae’r dewis manwerthu yn cynnwys amrywiaeth o feintiau, o 150g i 750g  a blociau 2.5kg a 5kg a ddefnyddir ar y cownteri deli.  Yn ogystal, mae gennym gosynnau crwn a blociau deli wedi eu cwyro â llaw, sydd yn helpu i warchod blas y caws.  Mae ein cosynnau gyda chwyr yn anrheg perffaith ac ar werth yn y digwyddiadau cwsmer a fynychir.  Gallwch hefyd eu prynu ar ein siop ar-lein.  Er hwylustod gallwn gyflenwi caws gratio mewn pecynnau 1kg, 2kg a 5kg.


Cynhyrchir caws brand a chaws label eraill ac mae gennym gytundebau i gyflenwi sawl archfarchnad allweddol gyda'u caws enw brand eu hunain.


Mae ein dulliau traddodiadol o wneud caws, ynghyd â'r llaeth a geisir yn lleol yn gwneud ein hamrywiaeth yn unigryw gydag ansawdd rhagorol.

Hufenfa De Arfon Cyf. Cymru. Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6SB

Rhif Ffôn. -0044 (0) 1766 810251 Ffacs -0044 (0) 1766 810578 sales@sccwales.co.uk