Hufenfa De Arfon
Mae Hufenfa De Arfon yn Gwmni Ffermwyr Llaeth Cydweithredol allweddol yng Nghymru, gyda bron i 170 o ffermwyr yn aelodau. Sefydlwyd y Cwmni Cydweithredol yn 1938, a heddiw cynhyrchir 10,500 tunnell o gaws a phrosesir 12 miliwn litr arall o laeth yn y llaethdy’n flynyddol. Prosesir cyfanswm o 112 miliwn litr o laeth yn flynyddol ac fe’n cyflenwir gan yr aelodau sef cynhyrchwyr llaeth sydd wedi eu lleoli o Ogledd Cymru i Ganolbarth Cymru.
Cyflenwir amrywiaeth o gynhyrchion llaeth o’r safon uchaf, yn cynnwys caws, llaeth, hufen a llaeth enwyn i nifer o gwsmeriaid; o’r siopau annibynnol bychan i’r archfarchnadoedd mawr a chwmnïau gwasanaethau bwyd – gallwch hyd yn oed brynu’n uniongyrchol ar ein siop ar lein!
Mae ein cynnyrch caws yn cael ei bacio mewn rhagbecynnau a blociau deli mawr, neu gellir ei brynu mewn bylc sydd yn cynnwys, ymhlith eraill, ein brandiau tiriogaethol, ac ein Hen Sir Clasurol Traddodiadol. Mae’r cynnyrch llaeth hefyd yn cael ei bacio mewn pecynnau manwerthu ac rydym ymhlith y cwmnïau cyntaf i bacio llaeth mewn bagiau ym Mhrydain. Mae llaeth sydd yn cael ei bacio ym magiau llaeth Hufenfa De Arfon nawr yn cael eu defnyddio gan un rhwydwaith caffi cenedlaethol allweddol.
Mae safon yn hollbwysig, o’r cynhwysyn crai i’r cynnyrch gorffenedig, ac adlewyrchir hynny trwy'r gwobrau niferus rydym wedi eu hennill. Cydnabuwyd ni sawl tro yng Ngwobrau Gwir Flas Cymru. Awgrymwn eich bod yn cadw golwg ar ein newyddion gan ein bod yn lansio cynnyrch newydd yn eithaf cyson!
