Safonau Ansawdd

Ymfalchïwn yn safon rhagorol y cwmni a'i chynhyrchion. Meddwn y safonau cenedlaethol gofynnol i gyd er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau da mewn grym i gynnal safon. Defnyddir y ‘Safonau Ansawdd' yma gan staff ym mhob proses er mwyn rhoi hyder a thawelwch meddwl i'r cwsmer

British Retail ConsortiumConsortiwm Masnach Prydain

Defnyddir Safon Technegol Bwyd Consortiwm Masnach Prydain i werthuso proseswyr cynnyrch bwyd label brand yr archfarchnadoedd. Cynlluniwyd ef fel hicyn i gynorthwyo'r archfarchnadoedd a pherchnogion brand gyda'u diwydrwydd dyledus.

Clas AccreditationAchrediad CLAS

Cynllun labordai annibynnol ar gyfer y diwydiant bwyd yw Cynllun Achredu Labordai Campden. Gan ein bod yn meddu yr achrediad pwysig hwn, gellir ymgymryd â'r rhan fwyaf o'r gwaith dadansoddi llaeth ar safle ar yr un diwrnod.

Red TractorTractor Coch

Ymfalchïwn ein bod yn Brydeinig ac yn gweithio tuag at warantu sicrwydd safonau bwyd o'r fferm i'r ffatri. Gwelir logo y tractor coch ar y rhan fwyaf o'n cynhyrchion llaeth brand.

ISO 14001

iso 140001Systemau Rheoli Amgylcheddol. Rhy hwn sylw i reolaeth amgylcheddol y cwmni ac mae'n datgan beth a wneir i finimeiddio effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd. Sicrheir ei fod yn gyfrifoldeb ar bawb yn yr Hufenfa i reoli, gwella a lleihau y niwed ar yr amgylchedd yn barhaus.

Buddsoddwyr mewn Pobl

Investor In PeopleMae'n cynnig fframweithiau profedig a syml i gyflawni gwelliannau busnes trwy bobl.

 

Marks & Spencer

Marks and SpencerRhestr ‘A' Marks & Spencer ar gyfer deunyddiau crai critigol, felly caniateir defnyddio caws bylc Hufenfa De Arfon ar gyfer bwyd brand fel brechdannau a phrydau parod