Roedd gan John Owen Roberts weledigaeth. Ei weledigaeth oedd gweld ffermwyr llaeth yn cydweithio er mwyn eu galluogi i gael pris gwell am eu llaeth. Daeth y weledigaeth honno yn ôl yn 1938 gan ddynodi lansio Hufenfa De Arfon. Heddiw, sawl blynedd yn ddiweddarach, parheir yn un o gydweithfeydd ffermwyr llaeth mwyaf Cymru a prosesir 80 miliwn litr o laeth pob blwyddyn i wneud cynnyrch llaeth a chaws; maent wedi derbyn gwobrau niferus. Ni gesglir llaeth mewn cafnau fel y gwnaed yn ôl yn 1938; heddiw cesglir ef gan ein fflyd tanceri sy'n ymweld â'r ffermydd saith diwrnod yr wythnos, 52 wythnos o'r flwyddyn.
Yn 1938 roedd aelodaeth yn 63 cynhyrchwr ansicr.
Heddiw, mae aelodaeth ffermwyr wedi chwyddo i oddeutu 125 ac maent wedi eu lleoli o Ogledd Cymru i Ganolbarth Cymru. Erys yr hufenfa ar ei safle gwreiddiol ger Chwilog yn ardal hardd Penrhyn Llŷn ac Eifionydd.
Mae gan Hufenfa De Arfon draddodiad hirfaith o wneud cawsiau. Dechreuodd y safle gynhyrchu caws yn 1959 ac heddiw cynhyrchir 6,500 tunnell o gaws pob blwyddyn, hynny yn defnyddio dros 80 miliwn litr o laeth. Yn wahanol i rai o'r hufenfeydd mawr a modern, defnyddir dulliau cynhyrchiant traddodiadol; eglurir mwy am ein dulliau ar dudalen ‘Sut y gwneir caws'.