Hufenfa De Arfon yw un o Gydweithfeydd Ffermwyr Llaeth blaenllaw Cymru, sydd erbyn hyn gydag oddeutu 125 o ffermwyr yn aelodau. Sefydlwyd y cwmni cydweithredol yn 1938 ac heddiw prosesir 6,500 tunnell o gaws a 12 miliwn litr o laeth drwy'r llaethdy pob blwyddyn. Yn gyfan gwbl, prosesir 80 miliwn litr o laeth pob blwyddyn o ffermydd yr aelodau; sydd o Ogledd Cymru i Ganolbarth Cymru
Cyflenwir amrywiaeth o gynhyrchion llaeth o safon uchel, yn cynnwys caws, llaeth, menyn hallt Cymreig, hufen a llaeth enwyn, i ystod eang o gwsmeriaid; o siopau bach annibynnol, i'r archfarchnadoedd mawr a chwmnïau gwasanaethau bwyd - gallwch hyd yn oed brynu yn uniongyrchol oddi ar ein siop ar lein! Caiff ein cynhyrchion caws eu pacio mewn pecynnau bach i'r siop a blociau deli mawr, gellir ei brynu mewn bylc ac mae'r brand deli clasurol, Hen Sir ar gael hefyd. Caiff y cynhyrchion llaeth eu pacio mewn pecynnau addas i'r siop ac rydym ymysg y cwmnïau cyntaf ym Mhrydain i bacio llaeth mewn bagiau.
Mae safon yn allweddol, o'r cynnyrch crai i'r cynnyrch gorffenedig, adlewyrchir hynny yn y gwobrau niferus a ddyfarnwyd i ni. Rydym hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth sawl gwaith yng ngwobrau Gwir Flas Cymru. Argymhellwn eich bod yn cadw ar flaen ein newyddion gan ein bod yn lansio rhywbeth newydd o hyd!