Cawsiau

Dragon ButterMae gennym draddodiad hir o wneud caws ac wedi bod yn gwneud hynny er 1959. Nawr cynhyrchir oddeutu 6,500 tunnell o gaws pob blwyddyn yn defnyddio dros 65 miliwn litr o laeth!

Parheir i fod yn draddodiadol iawn, yn halltu caws gyda llaw ar fyrddau agored. Nid yn unig bod hynny yn cynhyrchu cynnyrch rhagorol, galluogir ni i fod yn llawer mwy hyblyg na rhai o'r hufenfeydd modern o gylch y byd.

Cymerwch gipolwg ar Sut mae Gwneud Caws.

Mae gennym amrywiaeth caws eang, o gaws mwyn i Cheddar clasurol, Double Gloucester, Red Leicester a chaws tiriogaethol mwyaf adnabyddus Cymru, Caerffili Cymreig. Yn ogystal, cynhyrchir Monterey Jack gyda rysáit clasurol o'r Amerig. Rhestrir yr holl gynhyrchion yma.

Caiff caws ei bacio mewn pecynnau i'r siop neu mewn bylc, pecynnau 20kg. Mae'r amrywiaeth siop yn cynnwys meintiau gwahanol, o 150g i 750g neu flociau mwy, 2.5kg a 5kg ar gyfer y cownteri deli. Yn ogystal, rydym yn cwyro cosynnau a blociau deli gyda llaw; mae hynny o help i gadw blas y caws. CheeseMae'r cosynnau mewn cwyr yn anrhegion perffaith a phob amser ar werth mewn digwyddiadau yr awn iddynt.  Gallwch hefyd eu prynu ar ein siop ar lein. Os ydych am hwylustod, gallwn ddarparu caws wedi gratio mewn pecynnau 1kg, 2g a 5kg.

Cynhyrchir cawsiau brand a label eu hunain ac mae gennym gytundebu i gyflenwi nifer o'r archfarchnadoedd mawr gyda chaws label eu hunain. Mae'r dulliau gwneud caws traddodiadol, ynghyd â'r llaeth lleol yn gwneud ein cynnyrch yn unigryw ac o ansawdd uwchradd.