
Hufenfa De Arfon yw un o Gydweithfeydd ffermwyr llaeth mwyaf Cymru ac mae'n bodoli er 1938. Fe'i lleolir yng Ngogledd Orllewin Cymru, yng ngodre Eryri. Mae'r Cwmni yn cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau caled a menyn hallt Cymreig, ac hefyd yn potelu a dosbarthu llaeth Cymreig o dan enw y brand Dragon.