Logo Made In Wales

Hufenfa De Arfon yw Un o Gwmnïau Llaeth
Cydweithredol Mwyaf Blaenllaw Cymru

Scc-History1
Scc-History1
Scc-History2
Scc-History2
Scc-History3
Scc-History3
Scc-History4
Scc-History4
Scc-History5
Scc-History5
Scc-History6
Scc-History6
Scc-History7
Scc-History7
Scc-History8
Scc-History8
Scc-History9
Scc-History9
Scc-History10
Scc-History10

Hanes y Cwmni

Sut y dechreuodd?

Hufenfa de Arfon 1938

Mae stori Hufenfa De Arfon yn dechrau yn ôl yn 1938 pan gafodd John Owen Roberts weledigaeth i weld ffermwyr llaeth yn cydweithio i farchnata eu llaeth eu hunain.

Bryd hynny roedd ffermwyr yn amharod i ymrwymo gan fod cwmnïau cydweithredol eraill yn yr ardal wedi bod yn aflwyddiannus.  Yn ychwanegol, roedd amharodrwydd ymhlith y ffermwyr a werthai eu llaeth yn uniongyrchol i’r bobl leol yn nhrefi a phentrefi Penrhyn Llŷn; gwelwyd y cwmni cydweithredol fel bygythiad i’w bywoliaeth hwy.  Yn ôl yn 1938 roedd yr aelodaeth yn 63 o gynhyrchwyr ansicr.

Ystyriwyd safle’r Hufenfa yn ofalus.  Dewiswyd Rhydygwystl oherwydd ei leoliad hwylus, ar y cyrion rhwng Llŷn ac Eifionydd yng Ngogledd Orllewin Cymru.  Roedd y ddwy ardal, ac yn parhau i fod, yn adnabyddus am dyfiant da ei phorfeydd yn sgil yr awelon ysgafn a ddeuai o gwlff yr Iwerydd.

Roedd hen felin wlân ar y safle (lle mae’r labordy heddiw) a oedd yn le perffaith i letya’r offer prosesu llaeth a phasteureuddiwr cyntaf y wlad.  Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar sylweddolai’r Cyfarwyddwyr fanteision buddsoddi yn nhechnoleg gorau a mwyaf modern y cyfnod; rhywbeth sy’n parhau yn wir yma heddiw.

Cyfnod y Rhyfel

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd y llaeth mewn caniau llaeth yn ddyddiol a’u cludo ar y rheilffordd o Chwilog ger llaw yn uniongyrchol i ddinasoedd Gogledd Orllewin Lloegr.  Rhoddodd y busnes yma hwb gwerthfawr i’r Hufenfa gan ei fod yn creu elw ychwanegol y gellid ei ddosbarthu fel bonws i’r aelodau.

Cyfnod ar ôl y Rhyfel

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, sylweddolodd y llywodraeth pa mor agos fu’r wlad i newyn yn ystod y cyfnod rhyfel pum mlynedd.  Eu hymateb oedd annog a chefnogi cynhyrchiant amaethyddol.

Ar ôl y rhyfel, anogwyd ffermwyr i wella’r tir, da byw a chnydau a chafodd hynny effaith aruthrol ar Gwmni Ffermwyr Llaeth Cydweithredol fel Hufenfa De Arfon.  Erbyn 1954, roedd aelodaeth y Gydweithfa wedi cynyddu i 1,200.

Y 1950au

Yn ystod y cyfnod yma sefydlodd yr Hufenfa ddau is-gwmni: Masnachwyr Llŷn ac Eifion a werthai llaeth yn uniongyrchol drwy’r dynion llefrith i gartrefi a busnesau lleol yr ardal; ac Wyau Hufenfa De Arfon a gyflenwai cywennod a wyau o ffermydd yr aelodau i’w gwerthu ymlaen gan y dynion llefrith.

Gwellodd cynhyrchiant llaeth a safon yn drawiadol at ddiwedd y 1950au ac eto roedd Hufenfa De Arfon yn arwain y ffordd ac yn talu’r ffermwyr i gynhyrchu llaeth glanach ac o safon uwch.

Cynhyrchiant Caws yn 1959

Cyrhaeddodd cynhyrchiant llaeth ei uchelfan a phenderfynwyd yn y 1950au hwyr bod  gwneud caws yn opsiwn da i’r llaeth oedd dros ben.  Cychwynnodd y safle gynhyrchu yn 1959 gan greu brand ‘Caws Llŷn’.  Profodd yn frand poblogaidd sy’n parhau yn gyfarwydd yn lleol hyd heddiw.

Heddiw gwneir 7,500 tunnell o gaws ar safle yn flynyddol.

50 mlynedd o wneud caws

Rydym yn enwog am gynhyrchu cheddar o safon dda, fodd bynnag dros y 50 mlynedd olaf mae’r Hufenfa wedi bod yn cynhyrchu gwahanol gawsiau:

Mwy am Fenyn

Am gryn amser, cynhyrchai Hufenfa De Arfon fenyn, “Menyn Eifion”.  Yn 2011 buddsoddwyd mewn buddai fenyn traddodiadol unwaith eto.  Sicrhaodd y buddsoddiad £350,000 bod modd gwneud menyn Cymreig yn y dull mwyaf traddodiadol posib i ddarparu hyblygrwydd rysáit a lefelau halen.

Gwobr am amaeth

Mae Hufenfa De Arfon wedi cael ei chydnabod fel Cwmni Cydweithredol sydd  ar y blaen ac yn un sydd wedi bod yn ffyddlon i’w haelodau, sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant.

Yn gynnar yn y 1970au, derbyniodd J.O. Roberts, sylfaenydd y Cwmni MBE am ei wasanaeth i amaeth Cymru ac ei ragwelediad a chyrch i sefydlu Cwmni Llaeth Cydweithredol llwyddiannus.

Erys Hufenfa De Arfon ar ei safle gwreiddiol ger Chwilog ar gyrion prydferthwch Penrhyn Llŷn.